MEDDYGFA DOLGELLAU

Meddygfa Dolgellau
Tudalen Hafan Staff Meddygfa Gwybodaeth Meddygfa Gwasanaethau Gofal Iechyd Helpwch ni ich helpu chi Cysylltwch a ni

Fersiwn destun yn umg

Trefnwch apwyntiad
Cais am brescripsiwn ar lein
01341 422431

8am - 6.30pm
llun - gwener

Text in Welsh Text in English

Hawliau cleifion i Wasanaethau Meddygol Cyffredinol:

  • Cofrestru gyda Meddyg Teulu
  • Newid meddyg os dymunir
  • Cael cynnig archwiliad iechyd wrth ymuno a Meddygfa
  • Derbyn gofal brys ar unrhyw dro gan y feddygfa
  • Derbyn cyffuriau a meddyginiaethau perthnasol
  • Cael eich atgyfeirio i arbenigydd neu ail farn os cytynir gyda'r meddyg teulu
  • Hawl gweld cofnodion meddygol, yn amodol ar y Deddfau a gwybod ei bod yn ofynnol i'r sawl sy'n gweithio i'r GIG gynnal cyfrinachedd yn unol a gofynion cyfrinachedd

Helpwch y meddygon i'ch helpu chi trwy ddilyn y canllawiau canlynol:

  • Trin staff gyda chwrteisi bob amser
  • Cyrraedd yn brydlon ar gyfer apwyntiad
  • Ein hysbysu gynted a phosibl os na fyddwch yn gallu cadw neu dim angen apwyntiad mwyach.  Gellir llenwi eich slot hyd yn oed ar fyr rybudd.
  • Mae'r meddygon yn parchu eich amser a cheisir peidio eich cadw'n aros yn rhy hir.  Gobeithio y byddwch yn deall y gall rhai ymgynghoriadau gymryd mwy nag eraill.  Hefyd, mae argyfwng yn codi'n achlysurol fydd angen blaenoriaeth efallai.  Gobeithio y byddwch yn deall os achosir unrhyw anhwylustod i chi
  • Hysbyswch y feddygfa os bydd eich cyfeiriad neu amglychiadau personol yn newid

Ymddygiad Ymosodol

Nid yw'r feddygfa hon yn derbyn unrhyw ymddygiad ymosodol, ar lafar na chorfforol tuag at unrhyw aelod o staff.  Cofiwch eu bod nhw yma i'ch helpu chi.  Y cfan a ofynnir yw bod cleifion yn ymddwyn yn rhesymol ac yn trin staff gyda pharch.  Gall camymddwyn difrifol neu barhaus arwain at dynnu'r claf oddi ar restr y Feddygfa.

RHOI CYMORTH I NI ROI CYMORTH I CHI

Rydym yn ceisio darparu’r gwasanaeth a’r gofal gorau bosibl i’n cleifion ac i’r gymuned. Fodd bynnag, o dro i dro, mae camgymeriadau neu gamddealltwriaeth yn digwydd. Rydym yn croesawu’r cyfle cyntaf posib i drafod eich cwynion neu awgrymiadau. Gofynnwch i gael sgwrs gyda rheolwraig y practis, Mrs Caroline Vaughan, os gwelwch yn dda.

Os oes gennych broblem ynglyn a’r gwasanaeth ac yn methu ei drafod gyda ni, gallwch gysylltu a’r Cyngor Iechyd cymunedol lleol neu’r awrdurdod Gwasanaeth Iechyd Teuluol Gwynedd fydd yn gallu cynnig cymorth a chyngor.

Pat Billingham
Prif Swyddog
Cyngor Iechyd Cymuned
Ty Arran
Ffordd yr Arran
Dolgellau
01341 422236

Rhiannon Graham
Rheolwr Cefnogi Cleifion
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Eryldon
Campbell Road
Caernarfon
01286 672451

RHOWCH GYMORTH I NI GADW COFNODION CYFREDOL DRWY EIN HYSBYSU AM UNRHYW NEWIDIADAU 

© Egton Software Services 2006