MEDDYGFA DOLGELLAU

Meddygfa Dolgellau
Tudalen Hafan Staff Meddygfa Gwybodaeth Meddygfa Gwasanaethau Gofal Iechyd Helpwch ni ich helpu chi Cysylltwch a ni

Fersiwn destun yn umg

Trefnwch apwyntiad
Cais am brescripsiwn ar lein
01341 422431

8am - 6.30pm
llun - gwener

Text in Welsh Text in English

ARCHWILIAD MEDDYGOL “MOT”

  • Bydd y tim nyrsio yn cynnig archwiliad rheolaidd ar bwysedd gwaed, profion dwr, pwysau gan roi cyngor ar golli pwysau, rhoi'r gorau i ysmygu a cham ddefnyddio alcohol.
  • Fe gynigir profion iriad gwddf y groth ac archwiliad y fron gan Nyrs y Practis bob tair blynedd.
  • Mae ymwybyddiaeth cynyddol o bwysigrwydd ymchwiliad rheolaidd i broblemau testicl a prostrad i ddynion.
  • Gall cleifion cofrestredig 16 - 74 na welwyd am 3 blynedd ofyn am ymgynghoriad.

CLEFYDAU PARHAOL - Clefyd siwgwr, Asma, pwysedd gwaed uchel

Bydd gofyn i chwi fod yn bresennol mewn clinigau penodol yn rheolaidd os ydych yn dioddef o glefyd parhaol.

ATAL CENHEDLU

Cynigir rhestr lawn o ddulliau atal cenhedlu gan y Practis.

CLINIGAU CYN-ENEDIGOL

Cynigir y gofal uchod gan bob un o’r meddygon mewn cydweithrediad a fydwragedd o'r Uned Famolaeth.

IECHYD PLANT AC IMIWNEIDDIO

Mae clinig yn cael ei gynnal gan Dr Edwards a’r Ymwelydd Iechyd yn y Feddygfa rhwng 2:00-3:30yp pob dydd Llun oni nodir yn wahanol.

IMIWNEIDDIO CYN TEITHIO

Rydym yn defnyddio gwybodaeth mwyaf diweddar ar y cyfrifiadur gan Ysgol Feddygol Trofannol Llundain.

MAN LAWFEDDYGAETH

Mae’r pedwar meddyg yn barod i gynnig man lawfeddygaeth.

© Egton Software Services 2006